Mae’r miniSMU MS01 yn cefnogi ffrydio data parhaus er mwyn monitro a chofnodi mesuriadau foltedd a cherrynt mewn amser real. Mae’r adran hon yn esbonio sut i osod a defnyddio ffrydio data ar gyfer eich cymwysiadau.
Deall ffrydio data
Mae ffrydio data yn gadael i’ch miniSMU MS01 anfon data mesur parhaus i’ch cyfrifiadur ar gyfradd benodol. Yn wahanol i fesuriadau unigol sy’n gofyn am orchmynion ar wahân, mae ffrydio’n rhoi’r canlynol i chi:
- Caffael data parhaus heb orbenion gorchmynion
- Mesuriadau wedi’u hamseru’n fanwl gywir ar gyfyngau rheolaidd
- Dal digwyddiadau byrhoedlog yn effeithlon
Galluoedd ffrydio data
| Nodwedd | Manyleb | Nodiadau |
|---|---|---|
| Cyfradd samplu uchaf | 1,000 sampl yr eiliad | Wrth weithredu ar un sianel |
| Paramedrau mesur | Foltedd a cherrynt | Caiff y ddau werth eu hadrodd |
| Cydraniad y stamp amser | 1ms | Mae stamp amser gyda phob sampl |
Ffrydio ar ddwy sianel: Wrth ffrydio data o’r ddwy sianel ar yr un pryd, caiff cyfanswm y gyfradd samplu ei rannu rhyngddynt. Er enghraifft, bydd pob sianel yn ffrydio ar oddeutu 300 sampl yr eiliad (600Hz i gyd), ond nid ar 600 sampl yr eiliad (1,200Hz i gyd).
Blaenoriaeth sianeli: Pan fydd y ddwy sianel yn ffrydio, mae gan y sianel a gafodd ei rhoi ar waith gyntaf flaenoriaeth fesur dros y sianel a gafodd ei rhoi ar waith wedyn. Os caiff mesuriadau eu trefnu ar yr un pryd, mae’r sianel a gafodd ei rhoi ar waith gyntaf yn mesur yn gyntaf, a gall hynny achosi amrywiadau bach yn amseriad pwyntiau data’r sianel a gafodd ei rhoi ar waith yn ail.
Galluogi ffrydio data
I alluogi ffrydio data ar gyfer sianel benodol, defnyddiwch y gorchymyn SOURx:DATA:STREAM ON, lle mae x yn rhif y sianel (1 neu 2):
SOURx:DATA:STREAM ON
Enghraifft:
SOUR1:DATA:STREAM ON
Mae hyn yn galluogi ffrydio data ar gyfer sianel 1.
I analluogi ffrydio data:
SOURx:DATA:STREAM OFF
Enghraifft:
SOUR1:DATA:STREAM OFF
Mae hyn yn analluogi ffrydio data ar gyfer sianel 1.
Gosod y gyfradd samplu
Mae’r gyfradd samplu yn pennu faint o fesuriadau sy’n cael eu gwneud bob eiliad wrth ffrydio.
I osod y gyfradd samplu ar gyfer sianel benodol, defnyddiwch y gorchymyn SOURx:DATA:SRATE:
SOURx:DATA:SRATE
Enghraifft:
SOUR1:DATA:SRATE 500
Mae hyn yn gosod y gyfradd samplu i 500 sampl yr eiliad ar gyfer sianel 1.
Nodiadau:
- Os gosodwch gyfradd uwch na 750 sampl yr eiliad, bydd yn mynd yn ôl i’r uchafswm, sef 750
- Mae cyfraddau samplu is fel arfer yn rhoi mesuriadau mwy manwl gywir. Caiff y gyfradd gorsamplu ei haddasu’n awtomatig i weddu i’r gyfradd samplu y gofynnwyd amdani
- Gall cysylltiadau Wi-Fi gyfyngu ar y gyfradd samplu uchaf sy’n ymarferol
Fformatau ffrydio data
Caiff data ei anfon mewn sypiau o sawl mesuriad, mewn fformat CSV â’r strwythur canlynol:
1,1751317508035,-4.990e-01,-3.870e-05,2
1,1751317508127,-4.987e-01,-3.910e-05,2
1,1751317508727,-4.977e-01,-3.911e-05,2
Meysydd y fformat data
| Maes | Enghraifft | Disgrifiad |
|---|---|---|
| Rhif y sianel | 1 | Sianel y miniSMU (1 neu 2) |
| Stamp amser UNIX | 1751317507935 | Stamp amser y mesuriad mewn milieiliadau |
| Foltedd | -4.990e-01 | Mesuriad foltedd mewn foltiau (-0.499 V) |
| Cerrynt | -3.910e-05 | Mesuriad cerrynt mewn amperau (-39.1 μA) |
| Amrediad | 2 | Dynodydd yr amrediad cerrynt (ar gyfer dadfygio yn unig) |
Perfformiad ffrydio: pethau i’w hystyried
Ffrydio drwy USB
- Mae’n rhoi’r ffrydio cyflym mwyaf dibynadwy
- Ychydig iawn o golli data neu jitter amseru
- Mae’n cefnogi’r gyfradd lawn o 750 sampl yr eiliad
- Mae angen cysylltiad corfforol â’r cyfrifiadur
Ffrydio drwy Wi-Fi
- Mae’n cynnig hwylustod diwifr
- Efallai y bydd rhai pecynnau’n cael eu colli o bryd i’w gilydd
- Ystyriwch ddefnyddio 100-300 sampl yr eiliad i gael mwy o ddibynadwyedd
- Gall tagfeydd ar y rhwydwaith effeithio ar y perfformiad
- Mae’r pellter o’r pwynt mynediad yn effeithio ar y dibynadwyedd
Perfformiad y cyfrifiadur
- Gall diweddaru’r graffiau effeithio ar y perfformiad ar gyfrifiaduron arafach
- Ystyriwch leihau cyfradd diweddaru’r graffiau er mwyn i bopeth redeg yn llyfnach
- Mae storfa SSD yn rhoi perfformiad gwell ar gyfer cofnodi cyflym
- Caewch raglenni eraill sy’n defnyddio llawer o adnoddau yn ystod ffrydio hollbwysig
Cymwysiadau enghreifftiol
Cromlin ddadwefru batri
SOUR1:CURR -0.1 # Set 100mA discharge current
SOUR1:VOLT:PROT 2.5 # Set low voltage cutoff at 2.5V
SOUR1:FIMV ENA # Force current mode
SOUR1:DATA:SRATE 10 # 10 samples per second is sufficient
SOUR1:DATA:STREAM ON # Begin streaming
OUTP1 ON # Start the discharge
Ymateb IV cell solar o dan olau sy’n amrywio
SOUR1:CURR:PROT 0.05 # Limit to 50mA
SOUR1:FVMI ENA # Voltage source mode
SOUR1:DATA:SRATE 100 # 100 samples per second
SOUR1:DATA:STREAM ON # Begin streaming
OUTP1 ON # Enable output